Gwasanaeth Gyrfaoedd 


Mae Gyrfaoedd yn cynnig ystod o wasanaethau i ddarpar a chyn-fyfyrwyr yn ogystal â myfyrwyr presennol. Rydym hefyd yn cydweithio â chydweithwyr yn Undeb y Myfyrwyr, cyflogwyr, cydweithwyr academaidd, staff y Brifysgol a chyrff llywodraethol a sefydliadau eraill er mwyn gwneud cyfraniad allweddol at brofiad addysg uwch.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

• Gwybodaeth am Swyddi
• Cyngor ac arweiniad unigol
• Gwybodaeth am Yrfaoedd
• Gwasanaethau Gyrfaoedd i Fusnesau
• Gwaith yn ystod y Tymor/Gwyliau
• Gweithdai Gyrfaoedd
• Gwybodaeth am y Farchnad Waith
• Ffeiriau Gyrfaoedd
• Cyswllt Cyflogwr
• Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch

Yn y Brifysgol, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i baratoi ein myfyrwyr i lwyddo o fewn y gweithle a chynnig pob cyfle iddynt i gyflawni eu nodau. Mae ein  Datganiad Cyflogadwyedd yn amlinellu ein hymrwymiad i chi.

Gallwch wneud apwyntiad i siarad ag ymgynghorydd gyrfa i ymchwilio eich opsiynau a thrafod eich cynllun ar gyfer y dyfodol. Gallwch hefyd wneud apwyntiad i sicrhau bod eich CV yn gywir neu ofyn am gyfweliad ffug.

Trwy gydol y flwyddyn, mae Gyrfaoedd Casnewydd yn trefnu digwyddiadau a gweithdai i helpu ein myfyrwyr a’n graddedigion i wneud y gorau o’u cyfnod yma. Mae digwyddiadau gyrfaoedd yn fodd ardderchog i gwrdd â chyflogwyr.

I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau gyrfaoedd yn ogystal â threfnu apwyntiad, ewch i safle porthol Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Cysylltwch â Ni

Ffôn: 01633 435290
E-bost: careers@newport.ac.uk