Cyfeirir at Ddinas Casnewydd sydd ar lannau’r Afon Wysg tua 12 milltir o Gaerdydd, yn aml fel y Porth rhwng Lloegr a Chymru. Casnewydd yw'r drydedd ddinas fwyaf yng Nghymru sy’n ymestyn dros ardal ddaearyddol o bron i 75 milltir sgwâr ac mae ganddi boblogaeth amlddiwylliannol o dros 140,000.
Mae gan y Ddinas hanes cyfoethog a disglair sy’n deillio o dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Gan ddyddio yn ôl i’r Oes Efydd, mae’r Ddinas wedi cael y fraint i dystio i gynifer o ddigwyddiadau o bwys sydd wedi datblygu Casnewydd a’r ardal o gwmpas.
Mae Casnewydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan raglen newydd sydd gwerth tua £2 biliwn. Mae mwy o wybodaeth ynghylch adfywio Casnewydd ar gael.
Yma yn y Brifysgol, mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys Campws newydd y Ddinas sy’n werth miliynau o bunnoedd. Mae mwy o wybodaeth ynghylch Campws y Ddinas ar gael ar dudalen Campws y Ddinas.