Amdanom  




Y Brifysgol Pam Dewis Ni? Dinas Casnewydd

Prifysgol Cymru, Casnewydd

Lleolir Prifysgol Cymru, Casnewydd ar y ffordd i mewn i Gymru a gellir olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1841. Mae wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am lawer o’i chyrsiau ac mae’n denu myfyrwyr o dros 70 o wledydd ledled y byd.



Y Dr Noyes













"Mae'r cyrsiau blaengar yn rhoi sgiliau anghenrheidiol i bobl ar gyfer byd sy'n newid yn gyson"



Croeso gan yr Is-Ganghellor

Mae’r Brifysgol wedi ennill cryn lwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae uchafbwyntiau’n cynnwys canlyniad Ymarfer Asesiad Ymchwil 2008, parhau i berfformio’n uchel wrth ehangu cyfranogiad yn yr ardal, cynnydd arwyddocaol yng ngheisiadau myfyrwyr y DU a rhyngwladol, cofnod o sicrwydd ansawdd heb ei ail a’r manteision sy’n deillio o ennill cydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl.

Mae’n bosibl mai’r digwyddiad mwyaf arwyddocaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw bod lansio cyfnod adeiladu ein Campws uchelgeisiol Canol y Ddinas a gostiodd £35miliwn bron â’i gwblhau mewn da bryd ac heb fod dros y gyllideb. Cynlluniwyd yr adeilad yn arbennig ar gyfer hyrwyddo modd rhyngddisgyblaethol o weithio rhwng staff o’r Ysgol Fusnes a Chelf, y Cyfryngau a Dylunio ac annog y gymuned fusnes i gyd-weithio â’r Brifysgol.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n gwneud cais i astudio yng Nghasnewydd wedi parhau i gynyddu wrth i’n henw da, yn y DU yn ogystal â thramor, dyfu fel Prifysgol sydd â phortffolio o gyrsiau arloesol sy’n datblygu’n barhaol. Mae’r cyrsiau blaengar sy’n darparu sgiliau angenrheidiol i bobl ar gyfer byd sy’n newid yn gyson.

Y Dr Peter Noyes
Is-Ganghellor 
Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd