Proffil y Brifysgol 


Gall Prifysgol Cymru, Casnewydd olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1841 ac mae’n denu myfyrwyr o amgylch y byd.

Mae ganddi draddodiad hir o ddarparu cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau proffesiynol o ansawdd uchel. Mae gennym staff cefnogi a staff academaidd cymwysedig a phrofiadol sy’n gofalu am bob myfyriwr ac yn wir, rhoddodd Asiantaeth Sicrhau Ansawdd raddfa ‘hyderus’ (y raddfa orau a roddir) am ansawdd ei safonau addysgu academaidd. Mae ein cyrsiau’n fodern, yn heriol ac yn berthnasol i anghenion yr unfed ganrif ar hugain.

Cydnabyddir y brifysgol yn rhyngwladol ac mae’n enwog am lawer o’i chyfleusterau hynod ddatblygedig. Mae ganddi rhai o’r gweithdai a stiwdios sydd â’r cyfleusterau gorau yn Ewrop.

Mae gan y Brifysgol ddau gampws, un yn Allt-yr-ynn a’r llall yng Nghaerllion, er bydd ein Campws newydd Canol y Ddinas ar lannau’r Wysg yng nghanol y ddinas yn cymryd lle campws Allt-yr-ynn o fis Ionawr 2011. Mae mwy o wybodaeth am Gampws Canol y Ddinas ar gael.

Datganiad Cenhadaeth
Ein Cenhadaeth yw ysbrydoli a galluogi unigolion, sefydliadau a chymunedau i lwyddo trwy bethau newydd mewn dysgu, ymchwil a menter o ansawdd uchel.

   

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd