Rhesymau i’n Dewis Ni
Un o’r penderfyniadau mwyaf pwysig a fyddwch fyth yn ei wneud yw dewis y brifysgol gywir. Nid y cwrs cywir sydd angen ei ystyried yn unig. Mae rhaid dod o hyd i brifysgol sy’n cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ymhob maes, o astudio i les cymdeithasol.
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn sefydliad blaengar ac wedi ymrwymo’n llwyr i helpu pob un o’i myfyrwyr i gyrraedd eu potensial. Mae creadigrwydd, datblygiadau newydd a rhagoriaeth yng nghanol popeth rydym yn ei wneud. Mae’r Brifysgol yn falch o’i gorffennol ac yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous.
Ein nod allweddol yw rhoi profiad myfyriwr heb ei ail sy’n canolbwyntio nid yn unig ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau yn barod ar gyfer y gweithle ond profiad y byddwch yn edrych yn ôl arno gydag atgofion da.
Er bod y Brifysgol yn falch iawn o’i hymrwymiadau a’i chyraeddiadau, nid yw o bell ffordd ag agwedd hunanfoddhaus. Mae bob amser yn edrych am ffyrdd i wella ei gwasanaethau’n ogystal â’r cyfleusterau, fel ein Campws newydd Canol y Ddinas £35miliwn a leolir ar lannau’r Afon Wysg yng nghanol y ddinas a’r disgwyl yw bydd ei ddrysau’n agor ym mis Ionawr 2011.