Profiad Myfyrwyr Heb ei Ail 


Mae dod i astudio yng Nghasnewydd yn llawer mwy na lle i ddysgu’n unig. Mae’n lle sy’n cyfuno dysgu o’r radd flaenaf gydag amrywiaeth eang o weithgareddau cymdeithasol, heb yr angen i hyd yn oed deithio oddi ar y campws. P’un ai a ydych yn chwilio am weithgareddau chwaraeon, ymlacio ym Mar Undeb y Myfyrwyr neu’r cyfle i gwrdd â phobl newydd yn unig, byddwch yn teimlo gwefr y campws.

Mae’r campysau wrth wraidd cymuned glos gydag awyrgylch fywiog y byddwch yn teimlo’n rhan ohoni’n fuan. Yma ni fyddwch yn teimlo fel rhif myfyriwr yn unig neu wyneb arall eto yn y dorf ond yn lle hynny byddwch yn teimlo’n rhan o’r campws a byddwch bob amser yn adnabod wyneb cyfeillgar.

Beth bynnag yw’r dulliau astudio, cwrs neu gampws dynodedig rydych wedi eu dewis, rydym yn sicr y bydd eich profiad yn y Brifysgol yn eich helpu i sicrhau atgofion melys sy’n para am byth o’ch cyfnod yng Nghasnewydd.

Rhesymau eraill i’n dewis yw:

Dysgu Hyblyg  |  Costau Byw  |  Llety Wedi ei Sicrhau  |  Cydraddoldeb ac Amrywiaeth  |  Campysau Diogel

   

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd