Ysgol Gelf, y Cyfryngau a Dylunio Casnewydd
Mae gan addysg gelf yng Nghasnewydd hanes hir a balch.Yn ystod y pedwar degawd diwethaf, mae’r ysgol wedi ennill amlygrwydd rhyngwladol ar gyfer rhaglenni arloesol yn y celfyddydau rhyngweithiol a chyfryngau digidol yn ogystal â chyrsiau ffotograffiaeth, ffilm a dylunio o’r radd flaenaf. Cynhelir y cyrsiau yng Nghampws Caerllion (Celf a Ffotograffiaeth) yn ogystal â'r Campws newydd yng Nghanol y Ddinas.
Ysgol Fusnes Casnewydd
Mae Ysgol Fusnes Casnewydd yn y Campws newydd yng nghanol dinas Casnewydd. Mae’r Ysgol yn dod ag arbenigedd dwy adran at ei gilydd: Yr Adran Beirianneg ac Astudiaethau Proffesiynol (gydag adrannau Cyfrifeg ac AD a Pheirianneg ac Adeiladu) a’r Adran Fusnes a Chyfrifiadureg (gydag adrannau Rheoli a Marchnata, Busnes a’r Gyfraith, Cyfrifiadureg).
Mae gan yr Ysgol filoedd o fyfyrwyr wedi eu cofrestru ar ei chyrsiau o bedwar ban y byd.
Ysgol Addysg Casnewydd
Mae’r Ysgol Addysg yng nghampws Caerllion. Mae’r Ysgol yn cynnwys yr Adran Hyfforddi Athrawon a’r Adran Addysg a Dyniaethau.
Ysgol Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol Casnewydd
Mae’r Ysgol Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol ar hyn o bryd yn cynnal ei cyrsiau yng nghampws Caerllion. Mae gan yr Ysgol ddwy adran, yr Adran Iechyd a Chwaraeon a’r Adran Gwyddorau Cymdeithasol.