Felly, rydym yn cynnig y cwrs rydych eisiau ei astudio, rydych wedi darllen am y staff addysgu ac wedi edrych ar Undeb y Myfyrwyr – byddwch nawr eisiau gwybod am yr hyn sydd gennym i’w gynnig i chi ar y campws.
Mae gan ein dau gampws ystod o adnoddau i chi eu mwynhau:-
Cyfleusterau Llyfrgell a Dysgu
Mae’r Llyfrgell yn cefnogi gofynion dysgu, addysgu ac ymchwil yr Ysgolion academaidd wrth ddarparu mynediad i wybodaeth mewn unrhyw fformat.
Cyfleusterau Chwaraeon
Yma yng Nghasnewydd, mae chwaraeon yn ffactor bwysig ym mywydau llawer o bobl! P’un ai ydych yn frwd i gadw’n heini yn y gampfa neu’n awyddus i gystadlu ar lefel genedlaethol neu hyd yn oed yn rhyngwladol, mae’n bosibl y gall y Brifysgol gefnogi eich anghenion.
Bydd Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn cwrdd â nifer o’ch gofynion chwaraeon. Mae’n darparu ystod o brofiadau chwaraeon, ffitrwydd a hamdden i fyfyrwyr – yn cynnig gweithgareddau i’r dechreuwyr pur hyd at safon athletwyr rhyngwladol.
Mae cyfleusterau’n cynnwys:- neuadd chwaraeon, campfa/ystafell ffitrwydd, cyrtiau awyr agored yn ogystal ag ystod o weithgareddau chwaraeon o fewn tafliad carreg o’n campysau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe y Ganolfan Chwaraeon