Llety 


I nifer o fyfyrwyr, mae’r syniad o adael cartref, o bosibl am y tro cyntaf, yn brofiad hynod anodd.

Mae eich cyfnod yn y brifysgol yn un pwysig, cyffrous a heriol ac ymgartrefu a gwneud ffrindiau yw’r camau pwysig cyntaf  wrth gychwyn bywyd prifysgol. Rydym yn deall sut mae ansawdd amgylchedd y Brifysgol ac yn enwedig llety sy’n berchen i’r Brifysgol, yn hanfodol yn eich llwyddiant academaidd a’ch cyfle i fwynhau bywyd myfyrwyr.

Wrth ddewis byw gyda ni, cewch gyfle delfrydol i gwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd, gwledydd a diwylliannau gydag ystod eang o ddiddordebau academaidd a chymdeithasol.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried ein llety fel lle ardderchog i fyw a’n nod yma yn y Swyddfa Llety yw darparu llety o ansawdd da sy’n ddiogel a chyfforddus ac a gynhelir ac a gedwir yn dda am bris rhesymol.

Mae’r Swyddfa Llety yng Nghampws Caerllion a cheir tîm o staff profiadol yno i’ch helpu. Ein nod yw cynnig Gwasanaeth Llety Myfyrwyr o ansawdd uchel, am bris rhesymol a rhoi cyngor a chefnogaeth i bob myfyriwr am unrhyw fater sy’n ymwneud â llety.

Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau canlynol yn ateb nifer o’r cwestiynau rydych wedi bod yn holi eich hunan amdanynt ynghylch ein cyfleusterau llety. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiwn na allwch ddod o hyd i’r ateb iddo. Ein rhif ffôn yw 01633 432042/2041

Rydym yn ymrwymo i barhau i godi safonau ein llety a’n gwasanaeth ac am y rheswm hwn, rydym wedi arwyddo i gytuno’n llawn â Chod Ymarfer Prifysgolion y DU ar gyfer Rheoli Llety Myfyrwyr. Mae’r cod yn sefydlu ac yn monitro ein perfformiad fel darparwr llety myfyrwyr ac yn sicrhau y cedwir y safonau uchaf.

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd