Y Ganolfan Feddygol 


Gall y ganolfan feddygol gynnig HELP A CHYNGOR CYFRINACHOL YN RHAD AC AM DDIM i chi ynghylch unrhyw broblemau iechyd sydd gennych o bosibl tra eich bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol.

Ein nod yw Darparu

    • Gwasanaeth galw heibio i fyfyrwyr a staff yn ystod y tymor
    • Gwybodaeth a chyngor am gofrestru gyda meddyg/deintydd
    • Gwybodaeth am glinigau iechyd rhywiol lleol
    • Atgyfeiriadau at adrannau eraill o Wasanaethau Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd rydym yn credu y gallwn fod â rôl bwysig yn sefydlu’r neges iechyd o fewn cymuned ein prifysgol ac annog staff a myfyrwyr i wneud newidiadau bach tuag at eu ffordd o fyw yn iachach ac hapusach. Mae Canolfan Meddygol y Brifysgol wedi cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Her Iechyd Cymru’ ers iddo gael ei lansio ym mis Chwefror 2004. Rydym yn cydnabod bod lles ein cymuned yn bwysig a gall wneud gwahaniaeth i’r profiad o fod yn fyfyriwr. Mae cysylltiadau clir hefyd rhwng buddsoddi yn iechyd y gweithlu a nifer o fanteision i’r sefydliad.

Yn 2009, sefydlwyd y fenter Campws Iach ar y cyd â Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol i hyrwyddo dull cadarnhaol tuag at iechyd a lles ar y campws. Trwy gydol y flwyddyn, mae’r Ganolfan Feddygol yn trefnu digwyddiadau hybu iechyd sy’n annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hun er mwyn lleihau eu ffactorau risg rhag dioddef iechyd gwael yn y dyfodol. Rhan o’r fenter hon yw’r ffair iechyd flynyddol a gynhelir yng nghampws Caerllion ym mis Mawrth. Rhoddir y cyfle i bobl yn y ffair i gael sesiynau blasu therapïau amgen, tylino, triniaethau harddwch yn ogystal â rhoi gwybodaeth a chyngor am unrhyw broblemau iechyd yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01633 432137

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd