Gofal Plant 


Mae’r Cydlynydd Gofal Plant yn cadw rhestr o ddarpariaeth leol gofal plant ac mae ganddi ffurflenni cais ar gyfer pob un o ddarpariaethau’r Brifysgol. Mae gan y Cydlynydd Gofal Plant wybodaeth am Grantiau Gofal Plant, Credydau Treth Plant a Bwrsariaethau a chronfeydd wrth gefn Gofal Plant y Brifysgol.

Gweler  cwestiynau i ofyn i ddarparwyr gofal plant.

Trefnir cyfleusterau crèche i gefnogi digwyddiadau penodol y Brifysgol e.e. Y Diwrnod Blasu/Seremonïau Dyfarnu. Gofalir am blant rhwng 6 wythnos ac 8 mlwydd oed.

 Ffurflen archebu lle yn y crèche

Gellir cael ffurflenni cais mewn da bryd ar gyfer y digwyddiadau ac anfonir llythyr at y rhieni i gadarnhau bod lle i’w plentyn/plant.

Ym mis Mai 2002, enillodd Meithrinfa Tiny Tots y cytundeb i ddarparu gwasanaethau meithrin ym Mhrifysgol Cymru – Campws Caerllion. Mae meithrinfa Tiny Tots yn Sgwâr Clytha yn agos i Gampws y Ddinas yng Nghasnewydd.

 Pecyn Tiny Tots i Rieni 

Gweler  adroddiad diweddaraf AGGCC (CSSIW)

Mae holl gostau gofal plant ar gael.

Cysylltwch â Ni

Cydlynydd Gofal Plant: Samantha Davies
Ffôn: 01633 432065
E-bost: Samantha.davies@newport.ac.uk

Gwasanaethau Myfyrwyr
Prifysgol De Cymru
Campws Caerllion
Heol y Porthdy, Caerllion
NP18 3QT