Gwasanaethau Myfyrwyr
Gall eich amser yn y Brifysgol fod yn ysgol brofiad fawr, yn aml yn brysur o bryd i’w gilydd yn straenus ac mae’n bosibl y ceir cyfnodau pan fydd angen ychydig o help ychwanegol arnoch.
Mae gan y Brifysgol ystod lawn o wasanaethau cefnogi ar gael i sicrhau bod eich profiad dysgu’n un boddhaol yn ogystal ag un dymunol.
Gall Gwasanaethau Myfyrwyr Casnewydd gynnig yr help hwnnw ac mae’n delio ag ystod o faterion fel iechyd, problemau cyllid, lles ysbrydol, gofal plant a gyrfaoedd.
Mae’r Brifysgol yn falch iawn o’r berthynas ardderchog sydd rhwng staff a myfyrwyr ac yn gweithio’n gyson i sicrhau bod barn myfyrwyr yn cael ei gynnwys ym mhenderfyniadau strategol y sefydliad.