Y Ganolfan Chwaraeon  


Agorwyd y Ganolfan Chwaraeon ym 1999 i gwrdd â gofynion chwaraeon myfyrwyr a staff y Brifysgol yn ogystal â’r gymuned leol. Cynlluniwyd y Ganolfan hefyd i gynnal nifer o ddigwyddiadau pwysig trwy gydol y flwyddyn, ac mae nawr yn un o’r cyfleusterau mwyaf adnabyddus yn yr ardal ar gyfer cynnal y fath ddigwyddiadau.

Lluniwyd y wefan hon i’ch galluogi i wneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Cymerwch eich amser i edrych ar y wefan gan ein bod yn siwr y gallwn gwrdd â’r rhan fwyaf o’ch anghenion chwaraeon p’un ai eich nod yw bod yn ffit, gwneud ffrindiau newydd, rhagori mewn chwaraeon arbennig neu gael hwyl yn unig.

Mae barn a gofynion ein cwsmeriaid yn fwy pwysig na dim. Rydym yn cynnal arolygon a holiaduron yn rheolaidd ac mae ffurflenni sylwadau cwsmeriaid ar gael yn y dderbynfa. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch y gwasanaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae ein tîm ymroddgar yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a gobeithio y gallwn sicrhau bod eich profiadau yn y Ganolfan yn blesurus yn ogystal â chofiadwy.

Ryan Statton (Rheolwr Cyfleusterau Chwaraeon)
(01633) 432933

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd