Bywyd Myfyrwyr yng Nghasnewydd  


Rydych siŵr o fod yn gallu cofio pobl yn dweud wrthych mai eich cyfnod yn y Brifysgol fydd yr adeg orau yn eich bywyd. Yma, rydym yn ceisio ein gorau glas i sicrhau hynny.

Mae gennym ystod lawn o wasanaethau cefnogi i sicrhau bod y lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ar gael i gyrraedd eich llawn botensial.

Heblaw am eich astudiaethau, mae bywyd yn y Brifysgol ac o’i hamgylch yn cynnig digon o bethau i’ch diddanu, beth bynnag y bo eich diddordebau. P’un ai chwaraeon, bywyd nos, siopa neu gymdeithasu’n gyffredinol yw eich diddordeb, mae gennym y clwb neu’r cyfleuster ar eich cyfer.

Undeb y Myfyrwyr yw canolbwynt bywyd myfyrwyr ac rydych yn ymaelodi'n awtomatig pan fyddwch yn ymuno â’r Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli barn a diddordebau holl fyfyrwyr y Brifysgol ac yn darparu llu o weithgareddau ac adloniant.