Nodweddion Hygyrchedd
Rydym wedi ceisio lleihau nifer y tablau HTML a ddefnyddir.
Ein nod yw darparu Alt Tags perthnasol ar gyfer delweddau lle bynnag y bo’n bosibl.
Rydym wedi edrych ar ein cynllun lliwiau a graffeg ar gyfer agweddau nam ar y golwg a lliwddallineb.
Rydym wedi ychwanegu dolenni Osgoi’r prif gynnwys ar bob tudalen.
Gellir defnyddio ein dewislen gwe-lywio gyda’r allweddell wrth ddefnyddio allweddi TAB, ARROW ac ENTER.
Rydym wedi defnyddio CSS ar gyfer ein cynllun, a defnyddio maint ffont perthnasol i alluogi’r hyn sy’n well gan y porwr wrth-wneud maint y testun i weddu i anghenion ein defnyddwyr.
Amcanion Hygyrchedd
Rydym yn credu bod y wefan bresennol a gyflwynir gan ein System Rheoli Cynnwys yn cydymffurfio ag A sengl ond rydym yn gweithio tuag at wella hyn. Rydym yn croesawu awgrymiadau ac adborth gan bob defnyddiwr fel ein bod yn gallu gwella ein hymdrechion yn gyson i greu tudalennau defnyddiadwy a hygyrch ar-lein.
Ein nod nesaf yw ennill safon AA a chyflwyno mwy o opsiynau rhyngweithiol ar gyfer addasu gwedd y wefan. Byddwn hefyd yn gweithio ar y cyd â defnyddwyr ag anableddau i wella nodweddion y wefan ymhellach.
Gweinyddir gwefan Prifysgol Cymru, Casnewydd trwy system cyhoeddi CMS gan nifer o awduron. Mae ein tudalennau’n ddeinamig ac yn newid o hyd ac er ein nod yw arolygu a gwirio rhan fwyaf y safle, rydym yn cydnabod, ei bod yn bosibl y gall rhai o’r tudalennau beidio â chydymffurfio â’r wefan. Rydym wedi ymrwymo i newid a gweithio gyda defnyddwyr i gywiro tudalennau nad yw’n bosibl cael mynediad atynt a’r rhai nad ydynt yn cydymffurfio â gwefan y Brifysgol cyn gynted ag y bo’n rhesymol.
E-bostiwch unrhyw broblemau gwefan neu dudalennau at ein gwefeistr:
webadministrator@newport.ac.uk