Telerau Defnyddio 


Ymwadiad
Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod cynnwys y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, gall gynnwys y wefan newid ar unrhyw adeg ac ni all y Brifysgol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar-lein. Mae gennym yr hawl i wneud newidiadau heb rybudd.

Hawlfraint
Diogelir holl destun, delweddau a chynnwys arall y wefan hon gan hawlfraint Prifysgol Cymru, Casnewydd, oni bai y noder yn wahanol.

Dolennau Allanol
Nid yw Prifysgol Cymru, Casnewydd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol ac nid yw o angenrheidrwydd yn cefnogi eu barn nac yn sicrhau bod y wybodaeth a roddir yn gywir.

Nodau Masnach
Mae’r holl nodau masnach ar y wefan hon yn aros yn eiddo i’w perchnogion perthnasol ac fe’u defnyddir ar gyfer dibenion adnabod yn unig.
 
Datganiad Preifatrwydd ar gyfer Prifysgol Cymru, Casnewydd
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd (sy’n golygu Prifysgol Cymru, Casnewydd a’u cwmnïau cysylltiedig) wedi ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, ffôn neu eraill (“Gwasanaethau”). Yn y polisi hwn, rydym yn esbonio sut a pham rydym yn casglu eich gwybodaeth, yr hyn rydym yn ei wneud â hi a pha reolaeth sydd gennych o’n defnydd ohoni.

O bryd i’w gilydd, rydym yn ychwanegu neu newid swyddogaethau, nodweddion neu gynnyrch i’n Gwefannau neu ychwanegu neu newid Gwasanaethau. Gall y rhain, a’n hymrwymiad i amddiffyn preifatrwydd eich gwybodaeth bersonol, arwain at newidiadau o dro i dro i’r Polisi Preifatrwydd hwn. O ganlyniad, cofiwch gyfeirio’n ôl at y Polisi Preifatrwydd hwn yn aml i adolygu unrhyw newidiadau. 
 
Dylid edrych ar yr adran “Sylwadau” isod os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein Polisi Preifatrwydd.
 
Derbyn y Telerau Datganiad Preifatrwydd hyn
Wrth ddefnyddio unrhyw un o’r gwefannau o fewn rhwydwaith ein gwefan (“Gwefannau”) neu ein Gwasanaethau, rydych yn cytuno’n ddiamod i ymrwymo i’r Polisi Preifatrwydd hwn.

Pa ddata rydym yn ei gasglu a sut rydym yn ei ddefnyddio?
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch er mwyn:
i) prosesu archebion neu geisiadau a gyflwynwyd gennych;
(ii) gwella ein Gwasanaethau a Gwefannau
(iii) ar gyfer gwasanaethau sy’n gofyn i chi fewngofnodi er mwyn eich adnabod ar ôl mewngofnodi i ddarparu’r gwasanaeth;
(iv) cynnal ymchwil ynghylch demograffig, diddordebau ac ymddygiad ein holl cwsmeriaid; ac
(v) anfon gwybodaeth atoch rydym yn meddwl a fyddai o ddiddordeb i chi gan gynnwys gwybodaeth ynghylch cynnyrch a gwasanaethau newydd Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Ar gyfer rhai gwasanaethau mae’n bosibl y gofynnir i chi gofrestru gyda ni, neu ar adegau eraill, roi gwybodaeth amdanoch chi eich hun fel eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn. Mae’n bosibl hefyd y gofynnir i chi rannu eich diddordebau, hobïau a’r hyn sydd orau gennych.

Nid oes rhaid i chi roi’r wybodaeth hon, ond os nad ydych yn gwneud yna mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cynnig gwasanaethau penodol i chi neu bersonoli eich profiad a theilwra ein Gwasanaethau ar eich cyfer (er enghraifft, eich hysbysu am Nosweithiau Gwybodaeth a fydd o ddiddordeb i chi o bosibl).

Ffeiliau Cofnodi/Cyfeiriadau PRh
Pan fyddwch yn ymweld â’n Gwefannau, rydym yn cofnodi eich cyfeiriad PRh yn awtomatig (y cyfeiriad unigryw sy’n dynodi eich cyfrifiadur) a adnabyddir yn awtomatig gan ein gweinydd gwe. Rydym yn defnyddio cyfeiriadau PRh i’n helpu i weinyddu ein Gwefannau ac i gasglu gwybodaeth ddemocratig eang ar gyfer cyfanswm defnydd. Nid ydym yn cysylltu cyfeiriadau PRh â gwybodaeth lle gellir adnabod unigolyn.

Gwybodaeth nad yw’n bersonol
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch nad yw’n bersonol yn awtomatig fel y math o borwyr gwe a ddefnyddir gennych neu’r wefan a ddefnyddioch i gysylltu â’n Gwefannau. Nid oes modd eich adnabod o’r wybodaeth hon ac fe’i defnyddir yn unig i’n helpu i ddarparu gwasanaeth effeithiol ar ein Gwefannau. Mae’n bosibl y byddwn o bryd i’w gilydd yn darparu gwybodaeth i berchnogion neu weithredwyr gwefannau trydydd parti o le y gellir cysylltu â’n Gwefannau gyda gwybodaeth sy’n gysylltiedig â nifer y defnyddwyr sy’n cysylltu â’n Gwefannau o’u gwefannau nhw. Nid oes modd eich adnabod o’r wybodaeth hon.

Defnydd Cwcis
Darnau o wybodaeth yw cwcis y mae Gwefan yn ei throsglwyddo i’ch gyriant caled i gadw a weithiau i ddod o hyd i wybodaeth amdanoch. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond os yw’n well gennych, gallwch newid eich porwr i rwystro hynny. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu manteisio’n llawn ar Wefan pe byddech yn gwneud hynny. Mae cwcis yn benodol i’r gweinyddwr a’u creodd ac ni ellir cael mynediad atynt gan weinyddwyr eraill, sy’n golygu na ellir eu defnyddio i weld yr hyn rydych yn ei wneud ar y we. Er eu bod yn nodi cyfrifiadur y defnyddiwr, nid oes modd i gwcis adnabod cwsmeriaid neu gyfrineiriau’n bersonol. Ni chedwir gwybodaeth carden gredyd ar y cwcis.
 
Mae gennym yr hawl i ddefnyddio cwcis am y rhesymau canlynol:
(i) Nodi pwy ydych a chael mynediad at wybodaeth ameich cyfrif;
(ii) Amcangyfrif maint a phatrymau ein cynulleidfa;
(iii) Sicrhau na ofynnir i chi gofrestru ddwy waith;
(iv) Dod o hyd i’r hyn sy’n well gennych a gwella a diweddaru ein Gwefan; a
(v) Dilyn cynnydd a nifer y ceisiadau mewnrhai o’n cynigion arbennig a chystadlaethau.

Gyda phwy y rennir y wybodaeth?
Ni fydd Prifysgol Cymru, Casnewydd yn rhannu, gwerthu neu rentu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i ddarparwyr trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan.

Gall Prifysgol Cymru, Casnewydd ddatgelu ystadegau cyfanswm ynghylch ein gwerthiant, ymwelwyr â’n Gwefan a chwsmeriaid ein gwasanaethau ffôn er mwyn disgrifio ein gwasanaethau i ddarpar bartneriaid, hysbysebwyr a thrydydd parti cyfrifol eraill ac ar gyfer pwrpasau cyfreithiol eraill, ond ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth lle gellir eich adnabod.

Gall Prifysgol Cymru, Casnewydd ddatgelu gwybodaeth bersonol os oes gofyn gwneud hynny yn ôl y Gyfraith neu credir bod camau o’r fath yn angenrheidiol i ddiogelu a amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol enw cwmni a’i Wefannau, ymwelwyr â’r Gwefannau a chwsmeriaid ein Gwasanaethau.

Mae ein Gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau trydydd parti. Pan fyddwch yn ymweld â’r gwefannau hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn darllen eu polisïau preifatrwydd. Nid yw Prifysgol Cymru, Casnewydd yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd neu gynnwys gwefannau o’r fath.

Byddwn ond yn gwerthu neu rentu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti naill ai fel rhan o werthiant asedau cwmni Prifysgol Cymru, Casnewydd neu ar ôl sicrhau bod camau wedi eu gweithredu i sicrhau y parheir i amddiffyn eich hawliau preifatrwydd.

Gwybodaeth ynghylch cynnyrch a gwasanaethau
Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i chi. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, o bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd Prifysgol Cymru, Casnewydd yn anfon manylion atoch am ein gwasanaethau rydym yn meddwl a fyddai o ddiddordeb i chi. Os ar unrhyw adeg nad ydych yn dymuno derbyn y manylion hyn, e-bostiwch ni uic@newport.ac.uk.

Diogelwch
Mae diogelwch pob gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’n cwsmeriaid yn bwysig iawn i Brifysgol Cymru, Casnewydd. Mae gennym fesurau diogelwch yn eu lle i geisio amddiffyn rhag colli, camddefnyddio a newid data cwsmeriaid dan ein rheolaeth. Er enghraifft, adolygir a gwellir ein polisïau diogelwch a phreifatrwydd yn gyson fel y bo angen a dim ond personél awdurdodedig sydd â mynediad at wybodaeth am ddefnyddwyr. Yn achos ein Gwefannau, rydym yn defnyddio meddalwedd gweinyddwr diogel (SSL) i amgryptio gwybodaeth ariannol rydych yn ei mewngofnodi cyn y caiff eu hanfon atom. Er na fedrwn sicrhau na gwarantu na fydd colled, camddefnydd neu newid data’n digwydd, rydym yn gwneud ein gorau glas i osgoi hyn.

Ble cedwir y wybodaeth?
Cedwir gwybodaeth rydych yn ei rhoi drwy ein Gwefannau neu ein gwasanaethau ffôn mewn cyfrifiadur a leolir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Rhaid gwneud hyn er mwyn prosesu’r wybodaeth ac anfon unrhyw wybodaeth rydych wedi gofyn amdani atoch. Mae’n bosibl yr anfonir gwybodaeth a roddwyd gennych i’n swyddfeydd eraill a chyflenwyr trydydd parti cyfrifol, sydd efallai y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Nid oes gan bob gwlad y tu allan i’r AEE gyfreithiau preifatrwydd neu warchod data. Yn ogystal, os ydych yn defnyddio ein Gwasanaethau tra eich bod y tu allan i’r AEE, mae’n bosibl y trosglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r AEE er mwyn darparu’r Gwasanaethau hynny i chi.

Sylwadau
E-bostiwch unrhyw gwestiynau, pryderon neu sylwadau sydd gennych at wefeistr ein Polisi Preifatrwydd webadministrator@newport.ac.uk neu anfonwch lythyr atom:
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Campws Caerllion
Heol y Porthdy
Caerllion
Casnewydd
NP18 3QT

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd