Beth sy'n digwydd ar Ddiwrnod Agored 


Cynhelir Ffair Wybodaeth yng Nghampws Caerllion lle bydd cynrychiolwyr o Ysgol Gelf, y Cyfryngau a Dylunio Casnewydd, Ysgol Addysg Casnewydd, Ysgol Fusnes Casnewydd a’r Ysgol Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol wrth law i ateb cwestiynau am y cyrsiau y mae diddordeb gennych ynddynt.

Bydd hefyd ymgynghorwyr hyfforddedig o’n hadrannau Gwasanaethau Myfyrwyr a Gyrfaoedd yn bresennol i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch dod i’r Brifysgol. Os oes plant gennych, gallwch hefyd ddysgu mwy am ein Meithrinfa Tiny Tots.

Rydym yn ymwybodol bod llawer o rieni’n hoffi dod i Ddiwrnodau Agored ac mae croeso twymgalon iddynt! Bydd cyfleoedd iddynt siarad â staff a gofyn cwestiynau sy’n achosi pryder iddynt o bosibl, fel ‘a oes wir angen i mi brynu pob llyfr ar y rhestr ddarllen!’

I’ch helpu i ddeall mwy am fywyd yn y Brifysgol, byddwn yn cynnal y sesiynau canlynol:

Gwybodaeth am Gasnewydd

Cyflwyniad i’r Brifysgol a Dinas Casnewydd gyda throsolwg cynhwysfawr o’n cyfleusterau yma yng Nghasnewydd.

Cyllid Myfyrwyr a Gyrfaoedd

Mae arian yn bryder mawr i nifer o fyfyrwyr. Bydd y sesiwn hwn yn rhoi cyngor i chi sut i wneud y gorau o astudio heb fod â gormod o ddyled ar ddiwedd eich cwrs. Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’n myfyrwyr pan fyddant yn gadael y Brifysgol a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Bywyd Myfyrwyr

Pwy well i ddweud wrthoch am fywyd Casnewydd na’n myfyrwyr ni eu hunain? Dewch o hyd i’r gwirionedd yn y sgwrs hon.

Y Broses Derbyn

Gwnewch yn siŵr na fydd problemau’n codi wrth wneud cais. Bydd arbenigwyr o’n hadran Derbyniadau wrthlaw i roi cyngor i chi am yr hyn sydd angen ei wneud.

Undeb Myfyrwyr Casnewydd

Bydd ein pobl hyfryd o Undeb y Myfyrwyr yn dweud wrthych yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr ac yn rhoi syniad i chi am y mathau o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd y maent yn eu cynnal.

Campws Newydd Canol y Ddinas

O fis Ionawr 2011, bydd ein myfyrwyr a’n staff yn symud i gampws newydd sbon yng nghanol Dinas Casnewydd. Dewch i’r sesiwn hwn i weld a fydd eich cwrs chi wedi ei leoli yno a dysgu am yr hyn y bydd yr adeilad newydd syfrdanol hwn yn ei gynnwys.

Yn ogystal, bydd teithiau o amgylch cyfleusterau Campws Caerllion yn ogystal â llety ein campws ar gael.

Sicrhewch eich lle ar y diwrnod agored ar-lein

 

   

Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd