Mae Diwrnodau Agored yn ffordd ardderchog i ddysgu mwy am y Brifysgol a phenderfynu p’un ai Prifysgol Cymru, Casnewydd yw’r lle gorau i chi. Cewch y cyfle i edrych o gwmpas Campws y Brifysgol, siarad â staff academaidd a dysgu mwy am y cyrsiau.
Bwriedir ein Diwrnodau Agored ar gyfer myfyrwyr llawn amser ac fe’u cynhelir 3 gwaith y flwyddyn. Mae’r diwrnod yn cychwyn am 10am ac yn gorffen am 4pm – mynediad olaf am 3pm.
Cynhelir y Diwrnodau Agored nesaf :
Dydd Sadwrn Hydref 22 2011
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2011
Gofynnwn eich bod yn cadw eich lle o flaen llaw ar gyfer ein Diwrnod Agored fel ein bod yn gallu anfon rhaglen atoch i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod.
Gallwch gadw eich lle wrth ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein. Fel dewis arall, gallwch gadw eich lle wrth ffonio Canolfan Gwybodaeth ein Prifysgol 01633 432432 neu wrth e-bostio uic@newport.ac.uk.