Mae Nosweithiau Gwybodaeth yn rhoi cyfle gwych i chi ddysgu mwy am ein hystod o gyrsiau hyblyg rhan amser, proffesiynol ac ôl-raddedig. Gallwch hefyd ddysgu sut i wneud cais, datblygu gyrfa a sut i gael cymorth ariannol.
Cynhelir ein Nosweithiau Gwybodaeth yng Nghampws Caerllion yn ogystal â Champws Canol y Ddinas rhwng 4.30pm a 7.30pm.
Nid yw’r dyddiadau ar gyfer digwyddiadau’r flwyddyn nesaf wedi eu cadarnhau eto er fe’u cynhelir fel arfer adeg y gwanwyn/haf. Cofiwch edrych yn y fan hon am ddigwyddiadau
Campws Canol y Ddinas
Cyfrifeg (gan gynnwys ACCA / CIMA)
Astudiaethau Adeiladu
Astudiaethau Busnes
Cyfrifiadureg a TG
Cynghori (Ôl-raddedig yn unig)
Peirianneg
Rheoli Ynni
Rheoli AD (gan gynnwys CIPD)
Astudiaethau Rheoli (gan gynnwys MBA)
Marchnata (gan gynnwys CIM)
Rheoli Prosiect
Telathrebu
Campws Caerllion
Mynediad ac Astudiaethau Sylfaen
Celf, y Cyfryngau a Ffotograffiaeth
Therapïau Creadigol
Ysgrifennu Credigol ac Ysgrifennu Sgriptiau
Addysg
Saesneg, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol
Seicoleg a Seicoleg Busnes
Astudiaethau Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol
Anghenion Addysgol Arbennig
Iechyd a Chwaraeon
Hyfforddi Athrawon
Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Cynhaliwyd sesiynau cofrestru ar gyfer cyrsiau rhan amser yng Nghampws Caerllion (ar gyfer yr holl gyrsiau rhan amser) rhwng Medi 13-17.
I gael gwybodaeth bellach ynghylch cofrestru, cysylltwch â Chanolfan Gwybodaeth y Brifysgol 01633 432432
Archebu Prosbectws Ar-lein:
Gall Myfyrwyr y DU a’r UE archebu prosbectysau ar-lein. Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol (nad yw yn yr UE) ac yr hoffech dderbyn prosbectws, cysylltwch â’r Swyddfa Rhyngwladol yn uniongyrchol drwy ffonio: +44 1633 432077 neu e-bostio: international@newport.ac.uk