Diwrnodau Blasu 


Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn cynnal diwrnodau blasu mewn amrywiaeth o bynciau

Rydym yn cynnig 2 fath gwahanol o ddiwrnodau blasu i gwrdd ag anghenion unigol.

I gychwyn, rydym yn cynnig diwrnodau blasu ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12. Maent wedi eu cynllunio ar gyfer y rhai hynny sydd wedi meddwl am astudio yn y brifysgol ac ar gyfer y rhai hynny sy’n dal yn ansicr a yw’r brifysgol wir yn addas ar eu cyfer. Yn ogystal â chael cyfle i brofi diwrnod ym mywyd myfyriwr Casnewydd ac awyrgylch groesawgar y Brifysgol, bydd y myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o’r cyrsiau. Byddant yn gweithio â llysgenhadon myfyrwyr israddedig a staff gan brofi cyfleusterau addysgu a thechnegol proffesiynol y brifysgol.

Rydym hefyd yn cynnig Diwrnodau Blasu Addysgu Uwchradd lle rydym yn croesawu ceisiadau i fynychu gan y rhai hynny sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o’n cyrsiau hyfforddi uwchradd i gychwyn yn 2011. Mae gwybodaeth bellach am y Diwrnodau Blasu a sut i wneud cais ar gael ar wefan Diwrnodau Blasu Addysgu Uwchradd.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am ein diwrnodau blasu, cysylltwch â ni ar 01633 432020.
Watch Our Videos
Prifysgol Cymru, Casnewydd