Os nad ydych yn gallu mynychu un o’n Diwrnodau Agored, yna bydd trefnu lle ar daith o amgylch y campws yn rhoi cyfle arall i chi weld uchafbwyntiau campws Caerllion a phrofi blas ar fywyd yma yng Nghasnewydd.
Byddwch yn cael eich tywys gan un o’n llysgenhadon myfyrwyr a fydd yn gallu dweud popeth wrthych am fywyd yma fel myfyriwr.
Bydd y daith yn para am tua 30 munud a dangosir i chi brif gyfleusterau campws Caerllion sy’n cynnwys yr ystafelloedd cyfrifiaduron, y llyfrgell, undeb y myfyrwyr, y ganolfan chwaraeon a mwy.
Pan fydd y daith wedi dod i ben, bydd eich tywysydd yn mynd â chi i’r brif ffreutur lle gallwch fwynhau diod a snac. Mae’n bosibl yr hoffech eich tywysydd ymuno â chi, i siarad â chi’n bellach am y Brifysgol. Gyda chi y mae’r dewis.
Teithiau ychwanegol
Yn ogystal â’r daith campws safonol, gallwch ofyn am daith o amgylch y llety os ydych yn ystyried byw ar y campws.
Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau Ffotograffiaeth, gallwch hefyd wneud cais i weld ein cyfleusterau technegol perthnasol. Mae’r niferoedd yn gyfyngedig ar gyfer y daith hon felly sicrhewch eich lle cyn gynted ag y bo modd.
Dyddiadau ac Amseroedd Teithiau Tywysedig o amgylch y Campws
Cynhelir pob taith rhwng 12pm - 1pm.
Dydd Mercher, Ebrill 20fed
Dydd Mercher, Mehefin 15fed
Dydd Mercher, Gorffennaf 20fed
Dydd Mercher, Awst 3ydd
Dydd Mercher, Awst 24ain
Dydd Mercher, Medi 7fed
Gallwch archebu lle ar unrhyw un o’n Teithiau Tywysedig o amgylch y Campws gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein. Fel arall, gallwch archebu lle wrth ffonio Canolfan Wybodaeth y Brifysgol ar 01633 432432.
Teithiau Hunan Dywysedig
Gan fod adnoddau’n brin, rydym ond yn gallu cynnig teithiau o amgylch y campws gyda thywysydd ar y dyddiadau a nodwyd. Fodd bynnag, os ydych yn hapus i ymgyfarwyddo â Champws Caerllion wrth ddod o hyd i’ch ffordd eich hun o gwmpas, yna gallwch roi cynnig ar ein teithiau hunan dywysedig.
Ni fydd llysgennad myfyrwyr i’ch arwain ond pan fyddwch yn cyrraedd, bydd aelod o staff yn rhoi map a llyfryn gwybodaeth cynhwysfawr i chi ac rydych ar ben ffordd!!
Mae teithiau hunan dywysedig ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-4pm, yn ystod y tymor yn unig ac eithrio gwyliau banc.
Gwybodaeth bellach
Dim ond 12 lle’n unig sydd ar gael ar gyfer pob dyddiad felly archebwch eich lle’n gynnar i osgoi cael eich siomi. Nid yw’n bosibl gofyn am gadw lle ar ôl 4pm wythnos cyn y daith. Er enghraifft, os hoffech fynychu’r daith ddydd Mercher Medi 7fed, mae angen i chi archebu lle cyn dydd Mercher Awst 31ain.
Mae’r teithiau’n bennaf ar gyfer darpar fyfyrwyr felly rydym yn gofyn i chi beidio â dod â mwy na 2 unigolyn gyda chi.
Pan fyddwch yn dod i’r campws ar gyfer taith o gwmpas y campws, bydd angen i chi dalu am barcio wrth ddefnyddio’r peiriant talu ac arddangos. Y gost yw 50c am hyd at 2 awr, £1 am hyd at 4 awr a £2 am ddiwrnod cyfan.
Rydym yn argymhell eich bod yn gwisgo esgidiau cyfforddus a dillad addas ar gyfer y tywydd.