Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd, yn hawdd cyrraedd ati p'un ai ydych yn teithio mewn car, bws neu drên.
Mewn car
Dwy awr yn unig yw Casnewydd o Lundain ar yr M4, tra bod traffyrdd a ffyrdd deuol eraill yn cysylltu Casnewydd â’r Gogledd, y Canolbarth, y De-ddwyrain a De-orllewin Lloegr a Gorllewin Cymru. Ceir arwyddion o’r M4 at y ddau gampws. Dwy wefan ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich taith yw
AA route planner a
Multimap. Codau post y Brifysgol yw:- NP18 3QT (Campws Caerllion) a NP20 5DA (Campws Allt-yr-ynn).
I’r rhai sy’n teithio i Gaerllion o Gaerdydd, nid oes allanfa uniongyrchol o Gyffordd 25 yr M4. Gallwch naill ai adael ar Gyffordd 26, ac ymuno â’r ffordd liniaru, gan ddilyn arwyddion i Gaerllion, neu yrru i Gyffordd 24 a defnyddio'r gylchfan yno i wneud troad-U, er mwyn mynd at Gyffordd 25 o’r dwyrain.
Pont Hafren
Ar hyn o bryd, y gost i groesi Pont Hafren i mewn i Gymru (i’r gorllewin) yw £5.50 i geir. Derbynnir arian parod neu siec yn unig. Nid oes toll i fynd i’r dwyrain, wrth adael Cymru.
Mewn Trên
Ceir gwasanaethau Intercity gwych i Gasnewydd o’r holl brif ddinasoedd. Mae Llundain un awr a deugain munud i ffwrdd a Birmingham ddwy awr ar drên cyflym sy’n teithio bob awr. I’r rhai sy’n teithio i Gampws Allt-yr-ynn, ceir llwybr troed wedi ei arwyddo sy’n cymryd tua 15 munud. I gael mwy o fanylion am wasanaethau Rheilffordd ffoniwch 08547 484950 neu edrychwch ar wefan
National Rail neu
wefan Trenau Arriva Wales.
Mewn Bws
Ceir bysiau National Express rheolaidd i Gasnewydd o Lundain, Gorllewin Cymru, y Gogledd, y Canolbarth a De-orllewin Lloegr. Ceir gwasanaeth uniongyrchol hefyd o Feysydd Awyr Heathrow, Gatwick a Bryste. Edrychwch ar
wefan National Express Coaches neu ffoniwch: 08705 808080.
Bysiau Casnewydd
Mae Bysiau Casnewydd yn darparu gwasanaeth i’r ddau gampws. Ar gyfer Caerllion, ewch ar fws rhif 28 o safle 25 yr Orsaf Fws Ganolog, ac ar gyfer Allt-yr-ynn, ewch ar fws rhif 14 o safle 28. I gael manylion gwasanaethau bws lleol ffoniwch (01633) 263600 neu lawrlwythwch
amserlen Bysiau Casnewydd.
Mewn Awyren
Mae Maes Awyr Heathrow, Llundain tua dwy awr yn y car, a cheir meysydd awyr hefyd yng Nghaerdydd a Bryste, y ddau'n llai nag awr o Gasnewydd. I gael manylion amseroedd hedfan, ffoniwch (0870) 000 0123 ar gyfer Maes Awyr Heathrow, (01446) 711111 ar gyfer
Maes Awyr Caerdydd neu 0871 334 4344 ar gyfer
Maes Awyr Bryste.