Astudiaethau Cynradd gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh) 


Yr Hyn Sydd Mor Arbennig Am Y Cwrs Hwn?

Mae’r Ysgol Addysg wedi datblygu dolenni gydag Ysgol Brydeinig Chicago a Choleg Nazareth, Rochester, Efrog Newydd. Fel rhan o’r cwrs, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ymgymryd yn holl, neu ran, o brofiadau’r ysgolion yn yr Unol Daleithiau..

Cyflwyniad Cyrsiau

Mae’r Ysgol Addysg wedi datblygu dolenni gydag Ysgol Brydeinig Chicago a Choleg Nazareth, Rochester, Efrog Newydd. Fel rhan o’r cwrs, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ymgymryd yn holl, neu ran, o brofiadau’r ysgolion yn yr Unol Daleithiau.

Mae manylion rhaglen ar gael ar gyfer y cwrs hwn.

Beth rydych yn ei astudio

Mae’r cwrs yn cael ei rannu’n ddau faes penodol: 
   
• Astudio yn yr ysgol
• Astudio yn y Brifysgol

Mae rhan sylweddol o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys agweddau ar astudiaethau proffesiynol, datblygiad personol a phroffesiynol a rhai elfennau o astudiaethau cwricwlwm Cyfnod Sylfaen. Byddai’r sawl sy’n hyfforddi hefyd yn datblygu’u sgiliau personol wrth Siarad Cymraeg, darllen ac ysgrifennu a mynd ar leoliad Cyfnod Sylfaen Cyfrwng Cymraeg.

Astudio yn yr ysgol
Rydych yn cael profiad ysgol ym mhob blwyddyn o’r cwrs gan dreulio cyfanswm o 24 wythnos mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen.                  
Mae profiadau yn yr ysgol yn digwydd mewn ysgolion cynradd sydd wedi eu dethol yn ofalus ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol.

Bydd eich gallu i gynllunio, rheoli a dysgu dosbarth a monitro cynnydd disgyblion wrth weithredu’n effeithiol fel rhan o dîm yr ysgol, yn datblygu gam wrth gam dros dair blynedd y cwrs.  

Astudio yn y Brifysgol
Byddwch yn dod yn ymwybodol o’r cwricwlwm yn ystod y Cyfnod Sylfaen (ar gyfer dysgwyr rhwng 3-7 mlwydd oed) a Chyfnod Allweddol 2 (ar gyfer dysgwyr rhwng 7-11 mlwydd oed).  Y nodweddion allweddol eraill o astudiaeth wedi ei seilio yn y Brifysgol bydd ystyried rôl a chyfrifoldebau’r athro/athrawes ac ystyried ymarferiadau effeithiol yn y dosbarth i hyrwyddo dysgu.                              

Mae’r cwrs yn cymryd i ystyriaeth natur unigryw addysg yng Nghymru, eto i gyd, bydd eich cymhwyster yn eich galluogi i ymgeisio am swyddi tu allan i Gymru yn ogystal ag yng Nghymru.

Astudio yn yr ysgol

Rydych yn cael profiad ysgol ym mhob blwyddyn o’r cwrs gan dreulio cyfanswm o 24 wythnos mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen.                  

Mae profiadau yn yr ysgol yn digwydd mewn ysgolion cynradd sydd wedi eu dethol yn ofalus ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol.

Bydd eich gallu i gynllunio, rheoli a dysgu dosbarth a monitro cynnydd disgyblion wrth weithredu’n effeithiol fel rhan o dîm yr ysgol, yn datblygu gam wrth gam dros dair blynedd y cwrs.  

Astudio yn y Brifysgol

Yn ystod Blwyddyn 1af y cwrs, canolbwyntir yn agos ar y cwricwlwm yn yr ysgol gynradd; ystyried datblygiad plentyn ac astudio strategaethau i gefnogi dysgu’r plentyn. Ym Mlynyddoedd 2 a 3, byddwch yn arbenigo yn y Cyfnod Sylfaen (ar gyfer disgyblion 3-7 mlwydd oed).                                

Mae’r cwrs yn cymryd i ystyriaeth natur unigryw addysg yng Nghymru, eto i gyd, bydd eich cymhwyster yn eich galluogi i ymgeisio am swyddi tu allan i Gymru yn ogystal ag yng Nghymru.

Ble nesaf?

Mae gan y Brifysgol enw da sydd i’w edmygu, wrth helpu pobl dan hyfforddiant ddod o hyd i swydd ddysgu gyntaf; a darperir gwasanaeth gwych gan staff a swyddogion gyrfâu llawn amser.          

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ad-drefnu addysg a hyfforddiant athrawon yng Nghymru ar sail ranbarthol. Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd, yn darparu’r holl hyfforddiant is-raddedig dysgu cynradd yn Ne Ddwyrain Cymru.

Asesiad 

Mae Asesiad yn cynnwys aseiniadau cwrs, arholiadau ysgrifenedig a dysgu ymarferol.


Angen Cyfweliad

Oes. Yn y cyfweliad bydd tiwtoriaid yn chwilio am ymrwymiad at ddysgu a’r  rhinweddau academaidd sydd eu hangen ar gyfer dysgu cynradd. 


Sylw Bachog Myfyriwr

“Mae’r tair blynedd diwethaf wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer yr yrfa ddysgu sydd o ‘mlaen, a nawr, rwy’n teimlo’n barod i gymryd cyfrifoldeb dros fy nosbarth cyntaf o blant.”



PROFIADAU A GAFWYD
STAFF ADDYSGU

Pan ddarganfu Carys Soper y gallai hyfforddi yng Nghasnewydd fel athrawes ysgol gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg, ei hiaith gyntaf, gwyddai ei fod yn gyfle rhy dda i’w golli. Yma mae hi’n siarad am ei phrofiadau yn ei blwyddyn gyntaf ar y cwrs BA (Anrh) Astudiaethau Cynradd gyda Statws Athro Cymwysedig.

Mae’n fraint i fod yn un o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr ar y cwrs hwn; mae’n wych bod yn rhan o grŵp bach! Mae ein tiwtoriaid yn gweithio’n galed i roi’r profiadau gorau i ni, gan gynnwys darlithiau, gweithdai, siaradwyr gwadd arbenigol, teithiau astudio ymarferol a lleoliadau ysgol. Aethom i weld Amgueddfa Werin Sain Ffagan a rhoddodd hyn syniadau penigamp i ni ar gyfer teithiau ysgol. Roedd gwneud teisennau creisionllyd siocled a phrofiadau ym maes gwyddoniaeth yn uchafbwyntiau arbennig i mi.

Mae gan y grŵp Cymraeg gwpwrdd arbennig sy’n llawn adnoddau – gemau, llyfrau a cherddoriaeth yn y Gymraeg – a chawsom gyfle i fynd i siop lyfrau Cymraeg i gael stoc o ddeunyddiau ar gyfer ein lleoliad addysgu cyntaf. Mae bod yn rhan o’r grŵp Cymraeg wedi esgor ar nifer o gyfleoedd i ennill profiad ychwanegol. Wnes i fwynhau diwrnod gwych o hwyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o ardal blant y Prifysgolion, ac fe ges i wahoddiad i ddarllen yng nghyngerdd y Nadolig a roddodd hwb mawr i’m hyder.

Cynhaliwyd cyfres o seminarau penodol i’m paratoi ar gyfer fy lleoliad addysgu cyntaf mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal â methu cysgu’r noson gynt oherwydd yr holl gyffro, roeddwn yn naturiol yn nerfus iawn. Daeth y darlithwyr i’m gweld ar sawl achlysur ac fe wnaethon nhw fy helpu drwy fy lleoliad drwy fod yn eithriadol o frwdfrydig a chefnogol.

O ran y bywyd cymdeithasol, mae digon i’w wneud. Mae undeb y myfyrwyr yn trefnu llwyth o ddigwyddiadau – roedd y clwb comedi a’r ddawns chwaraeon yn ardderchog. Rydw i’n byw yn llety Opal yng nghanol y ddinas sydd mewn lleoliad da iawn gyda’r orsaf fysiau, siopau, clybiau a champfa (aelodaeth rad iawn i fyfyrwyr a chyfleusterau o’r radd flaenaf) tua 5 i 10 munud i ffwrdd ar droed, heb anghofio am yr uwchfarchnad ar draws y ffordd. Mae’r ystafelloedd yn fawr gyda chegin fodern, maen nhw i gyd yn en suite ac mae bws di-dâl i’r brifysgol. Cyfleusterau eraill yn y brifysgol a’m denodd oedd yr amrywiaeth o chwaraeon y gallwch gymryd rhan ynddynt. Ymunais â’r tîm hoci ac rydw i wedi mwynhau tymor syfrdanol yn llawn hwyl a her, a gyda chit newydd ar y ffordd mae’n sicr yn rhywbeth y byddwn i’n ei argymell!

Yn wahanol i brifysgolion eraill yr ymwelais â nhw, mae ymdeimlad o gynhesrwydd yn rhan annatod o awyrgylch cyfeillgar y brifysgol. Er fy mod i’n rhan o’r grŵp Cymraeg mae gen i gylch ehangach o ffrindiau – teimlaf fy mod i’n mwynhau’r gorau o ddau fyd. Oherwydd profiadau fy mlwyddyn gyntaf, rydw i’n llawn optimistiaeth a chyffro wrth aros am yr ail.


Karen Morris (Pennaeth Adran Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon)
Sue Peters
Sue Unwin
Jim Newcomb
Jane Pagan
Jill Lawton
Tracy Evans
Rhiannon Packer
Barbara Kurzik
Lynne Jones
Viv West
Jonathan Barry



Key Facts
Course Code
X124

Duration

3 blynedd llawn amser

Fel arfer, mae myfyrwyr unai’n mynychu’r Brifysgol neu ar leoliad ysgol am 5 diwrnod yr wythnos.


Entry Requirements
• Lleiafswm o 220 pwynt UCAS i gynnwys o leiaf 180 o bwyntiau o 2 lefel A, un i fod yn bwnc cwricwlwm cenedlaethol perthnasol i gwricwlwm ysgol gynradd
• Derbynnir y Baccalaureate Cymreig
• TGAU Cymraeg a Saesneg a Mathemateg (Gradd B neu uwch)
• TGAU Gwyddoniaeth (Gradd C neu uwch)
• Mae profiad gwaith mewn ysgolion cynradd yn ddymunol
• Cyn dechrau’r cwrs, gofynnir i fyfyrwyr ymgymryd â 10 diwrnod arsyllu mewysgolion cynradd ac uwchradd
• Bydd angen Datganiad Iechyd, Tystiolaeth CRB a Chorfrestriad ISA

Campus
Caerllion

Full-time
Yes

Part-time
No

Home/EU Fees
Fee Information


Find out more
All Enquiries 
University Information Centre
University of Wales, Newport
Caerleon Campus
Lodge Road
Caerleon
Newport
South Wales
NP18 3QT

Tel: (01633) 432432
Fax: (01633) 432046

Email:uic@newport.ac.uk 

Watch Our Videos
University Of Wales, Newport